|
International Conference on Media and Culture in Small Nations - CALL FOR PAPERS
Cyfrwng/Media Wales Conference 2011
Hosted by:
The Centre for the Study of Media and Culture in Small Nations, Atrium, Cardiff School of Creative and Cultural Industries, University of Glamorgan.
Conference dates June 16-17 2011
Deadline for Proposals: January 31 2011
Cyfrwng is currently seeking presentations for its annual conference to be held at the Cardiff School of Creative and Cultural Industries, University of Glamorgan in Cardiff, Wales. We are seeking submissions from academics, arts and media practitioners, and policy makers in the following fields of study: Film, Television, Radio, Journalism, New Media and Theatre and Performance.
Cyfrwng 2011 aims to take an international perspective and examine a range of perspectives on Media and Culture in Small Nations. Proposals for papers, panels, workshops, screenings and performances discussing any aspect of the conference theme are welcomed, including, but not limited to:
International perspectives on the media and culture of small nations
Media, culture, small nations, and the post-colonial environment
Media and culture in sub-national territories
Race, class & national cultures in small nations
Welsh media and culture in an international context
Small nations and territories: the meaning of national culture today
Artists working in small nations
Historical, theoretical, analytical, practical or policy-based perspectives on any of the above.
We invite those engaged in intellectual work within existing institutions, such as universities, but also those engaged in the arts and media professionally to share their ongoing work.
Papers should be no more than 20 minutes in length, but we will consider other timescales for short performances, screenings etc. We would also consider proposals for small-scale exhibitions. Proposals for complete panels will also be welcome. Please send proposals of around 300 words (for individual papers) together with a short biography to the following address: sblandfo@glam.ac.uk
For more information on Cyfrwng – Media Wales Journal please refer to the website: http://www.cyfrwng.com/
For more information on the conference hosts – The Centre for the Study of Media and Culture in Small Nations at the University of Glamorgan please go to: http://culture.research.glam.ac.uk/
We look forward to hearing from you, organizing with you and, of course, learning from you!
(Welsh version follows)
***********************************************************************************************************
Cynhadledd Ryngwladol ar y Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bychan – GALWAD AM BAPURAU
Cynhadledd CYFRWNG 2011
Cynhelir gan:
Canolfan Astudio’r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bychan, Atrium, Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd, Prifysgol Morgannwg.
Dyddiadau’r gynhadledd Mehefin 16-17 2011
Dyddiadau cau ar gyfer cynigion: Ionawr 31 2011
Gwahoddir cyflwyniadau ar gyfer cynhadledd flynyddol CYFRWNG a gynhelir yn Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd, Prifysgol Morgannwg, Caerdydd, Cymru. Gwahoddwn gyflwyniadau gan academyddion, ymarferwyr y celfyddydau a’r cyfryngau, a gwneuthurwyr polisi, yn y meysydd astudiaeth canlynol: Ffilm, Teledu, Radio, Newyddiaduraeth, Cyfryngau Newydd, Theatr a Pherfformio.
Bwriad CYFRWNG 2011 yw cymryd persbectif rhyngwladol gan archwilio ystod o safbwyntiau ar y Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bychan. Croesewir cynigion ar gyfer papurau, paneli trafod, gweithdai, dangosiadau a pherfformiadau yn trafod unrhyw agwedd ar thema’r gynhadledd, yn cynnwys, ond heb fod wedi’u cyfyngu i’r pynciau canlynol:
Persbectifau rhyngwladol ar y cyfryngau a diwylliant mewn cenhedloedd bychan
Y cyfryngau, diwylliant, cenhedloedd bychan, a’r amgylchfyd ôl-drefedigaethol
Y cyfryngau a diwylliant mewn tirogaethau is-genedlaethol
Hil, dosbarth & diwylliannau cenedlaethol mewn cenhedloedd bychan
Y cyfryngau a diwylliant Cymreig mewn cyd-destun rhyngwladol
Cenhedloedd bychan a thiriogaethau: ystyr diwylliant cenedlaethol heddiw
Artistiaid yn gweithio mewn cenhedloedd bychan
Persbectifau hanesyddol, damcaniaethol, dadansoddol, ymarferol, neu sy’n ymwneud â pholisi, mewn perthynas ag unrhyw un o’r uchod.
Gwahoddwn y sawl sy’n ymwneud â gwaith deallusol mewn sefydliadau fel prifysgolion, a hefyd y sawl sy’n ymwneud â’r celfyddydau a’r cyfryngau yn broffesiynol, i rannu eu gwaith.
Ni ddylai papurau fod yn fwy nac 20 munud o hyd, ond byddwn yn ystyried amrywiol amseroedd ar gyfer perfformiadau byr, dangosiadau ayyb. Byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer arddangosfeydd bychan. Croesewir hefyd gynigion ar gyfer paneli trafod cyflawn. Danfonwch gynigion o oddeutu 300 o eiriau (ar gyfer papurau unigol) ynghyd â bywgraffiad byr i’r cyfeiriadau canlynol os gwelwch yn dda: sblandfo@glam.ac.uk
Am rhagor o wybodaeth ar CYFRWNG – Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru ewch i’r wefan: http://www.cyfrwng.com/
Am rhagor o wybodaeth ar Y Ganolfan Astudio’r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bychan ym Mhrifysgol Morgannwg, ewch i: http://culture.research.glam.ac.uk/
Edrychwn ymlaen i gael clywed gennych, i drefnu gyda chi, ac wrth gwrs, i gyd-drafod!
|